English

Yr Ymddiriedolaeth

Elusen yw Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol gan Syr Clough Williams-Ellis ym 1972, gyda’r nod o ddiogelu ei eiddo yng Ngogledd Cymru a sicrhau y byddai’r eiddo hwn yn cael ei warchod er budd y cyhoedd yn yr hirdymor.

Caiff yr Ymddiriedolaeth ei rheoli gan hyd at wyth o ymddiriedolwyr. Mae rhai o’r ymddiriedolwyr hyn yn ddisgynyddion Syr Clough. Gwirfoddolwyr yw pob un o’r ymddiriedolwyr, ac mae ganddynt arbenigedd mewn amryw byd o feysydd. Mae eiddo’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys tair prif elfen: Ystad wledig Brondanw ym mhlwyf Llanfrothen, yn cynnwys bythynnod, ffermydd a choetiroedd; Plas Brondanw – cartref Syr Clough ar yr Ystad; a Phentref Portmeirion – ei greadigaeth bensaernïol ym Minffordd, Penrhyndeudraeth. Wrth ofalu am y tir a’r adeiladau yn ardaloedd hardd cefn gwlad Cymru, nod yr Ymddiriedolaeth yw sicrhau y bydd gweledigaeth Clough ar eu cyfer yn goroesi, yn benodol er mwyn “Coleddu’r gorffennol, harddu’r presennol ac adeiladu ar gyfer y dyfodol”.

Nodau a Gwerthoedd

Er budd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol, nod yr Ymddiriedolaeth yw:

  • Hyrwyddo’r arfer o warchod cefn gwlad a thirweddau gwledig, ynghyd â’u planhigion a’u hanifeiliaid.
  • Gwarchod a chyfoethogi harddwch naturiol tir yr Ymddiriedolaeth, yn cynnwys y tiroedd parc a’r gerddi ffurfiol, y daliadau amaethyddol a’r ardaloedd gwyllt.
  • Gwarchod ardaloedd o ddiddordeb hanesyddol, ecolegol neu wyddonol, a diogelu neu gyfoethogi eu cymeriad naturiol, eu hamgylchedd a’u bioamrywiaeth.
  • Hyrwyddo mynediad cyhoeddus cyfrifol i gefn gwlad a diogelu llwybrau cerdded a llwybrau troed at y diben hwn.
  • Diogelu ac adfer adeiladau a chanddynt rinweddau hanesyddol, pensaernïol neu artistig, yn cynnwys etifeddiaeth bensaernïol Syr Clough Williams-Ellis.
  • Datblygu a hyrwyddo amaethyddiaeth a choetiroedd cynaliadwy, yn ogystal â phrosiectau ynni gwyrdd.
  • Darparu tai gwledig o ansawdd da er mwyn helpu i gynnal cymuned fyw a all ddal ei gafael ar bobl yn yr ardal, a chynnal iaith a diwylliant y gymuned honno.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o hanes a diwylliant Cymru a pha mor bwysig yw cadwraeth, amgylcheddaeth a rhagoriaeth wrth gynllunio a dylunio.

Y Sylfaenwyr

Clough ac Amabel Williams-Ellis a aeth ati i sefydlu’r Ymddiriedolaeth sy’n sail i’r wefan a ddarllenwch yn awr. Treuliodd y ddau fywydau hir-oes ac amrywiol gyda’i gilydd mewn partneriaeth a barodd am fwy na 60 mlynedd.

Clough and Amabel

Ganed Clough ym 1883, ac roedd wastad o’r farn ei fod wedi’i eni’n bensaer: ‘Er bod y llu o bethau a ddaeth i’m rhan yn ystod fy mywyd maith ac amrywiol yn ymddangos braidd yn amherthnasol i’m prif angerdd, hyd yn oed fel gwyddonydd, peiriannydd, milwr, llongwr amatur, tirfeddiannwr gwledig, teithiwr ac awdur, bu’r pensaer ynof yn bresennol bob amser, ni waeth pa mor llwyr y’i gorchuddiwyd gan faterion mwy uniongyrchol.’ Arweiniodd pensaernïaeth yn naturiol at gadwraeth a chynllunio trefol wrth iddo ddatblygu’n eiriolwr angerddol dros warchod mannau hardd ar gyfer y genedl.

Awdur nofelau, pamffledi gwleidyddol, llyfrau gwyddonol a hanesyddol i blant, a chasgliadau nodedig o straeon tylwyth teg a ffuglen wyddonol oedd Amabel Strachey, ei wraig. Mae ei llyfr cyntaf, sef ‘An Anatomy of Poetry’, yn glasur hyd heddiw, bron i 100 mlynedd yn ddiweddarach. Caiff ei phamffledi sy’n rhybuddio ynghylch peryglon Natsïaeth eu harddangos yn Amgueddfa Holocost Llundain. Yn ddiweddar cafodd ei gwaith ysgrifennu bywiog ei gynnwys mewn cyfrol o “ysgrifau radical i blant”, ac mae ei gwaith ffeministaidd wedi’r rhyfel, sef The Art of Being a Woman, wedi ennyn diddordeb academaidd yn ddiweddar.

Roedd y ddau ohonyn nhw'n awduron toreithiog ac fe wnaethant ysgrifennu sawl llyfr gyda'i gilydd, gweler y manylion ar dudalen y Llyfrgell.

O blith eu tri phlentyn, daeth Susan yn enwog fel dylunydd, ac yn arbennig felly fel dylunydd crochenwaith Crochendy Portmeirion, sef cwmni a gâi ei redeg ganddi hi a’i gŵr. Erbyn hyn mae Plas Brondanw yn gartref i oriel a gaiff ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth sydd wedi’i neilltuo i’w gwaith hi. Priododd y ferch iau Charlotte, biolegydd, â milwr o Seland Newydd a secondiwyd yn ystod y rhyfel i wneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle enillodd Charlotte radd PhD. Symudodd y ddau yn ôl i Seland Newydd ym 1946. Yn anffodus bu farw Christopher, y plentyn ieuengaf a’r unig fab, yn yr Ail Ryfel Byd – colled enfawr i’r teulu.

Yn 2016 ad-drefnwyd cyfansoddiad yr Ymddiriedolaeth gan ffurfio Sefydliad Corfforedig Elusennol o dan Ddeddf Elusennau 2011, a daeth yn elusen gofrestredig, rhif 116 5883.

Caiff yr Ymddiriedolaeth ei rheoleiddio gan y Comisiwn Elusennau a’i rheoli yn unol â’i Chyfansoddiad cofrestredig (dyddiedig 4 Mawrth 2016) gan hyd at wyth o ymddiriedolwyr.

Fel arfer, cynhelir cyfarfodydd yr ymddiriedolwyr bedair gwaith y flwyddyn. Efallai y bydd cyfarfodydd arbennig ychwanegol yn cael eu cynnal at ddibenion penodol.

Mae is-bwyllgorau, sy’n cynnwys rhai o’r ymddiriedolwyr, yn delio â materion fel cyllid, tenantiaethau a goruchwylio gerddi Plas Brondanw, a byddant yn adrodd i’r bwrdd ymddiriedolwyr llawn.

Caiff y gwaith beunyddiol o weinyddu materion yr Ymddiriedolaeth a rheoli’r ystâd ei ddirprwyo i asiantau rheoli, sef Balfours.

Mae gan yr ymddiriedolwyr gynghorwyr proffesiynol mewn meysydd arbennig, yn cynnwys y gyfraith, rheoli buddsoddiadau, cydymffurfio â rheolau elusennau ac archwilio.

O bryd i’w gilydd mae’r ymddiriedolwyr yn cyflogi ymgynghorwyr technegol, er enghraifft i roi cyngor ynghylch rheoli coetiroedd, adfer adeiladau hanesyddol a phrosiectau ynni gwyrdd, fel gwres cymunedol o ynni adnewyddadwy (biomas) a chynlluniau hydrodrydanol.

Dyma ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis:

Ms Menna Angharad (wyres Syr Clough)
Ms Seran Dolma (gor-wyres Syr Clough)
Dr Rachel Garden (wyres Syr Clough)
Mr Iwan Huws
Mr Dafydd Iwan
Dr Merfyn Jones
Mr Julian Wallace (ŵyr Syr Clough) – Cadeirydd
Mr David Wynne-Finch

Asiantau
Rheolir Ystad Brondanw ar ran yr ymddiriedolwyr gan Balfours LLP

Balfours LLP
New Windsor House
Oxon Business Park
Shrewsbury
Shropshire
SY3 5HJ

Richard Jones-Perrott
Ffôn: 01743 239210
E-bost: RichardJones-Perrott@balfours.co.uk

Frances Steer
Ffôn: 01743 239206
E-bost: francessteer@balfours.co.uk