English

Ardal Leol

Mae pentrefan Croesor a phentref mwy Garreg ill dau wedi’u lleoli ym mhlwyf Llanfrothen.

Caiff y gymuned, sy’n cynnwys rhyw fil o bobl – y rhan fwyaf yn siaradwyr Cymraeg – ei chydnabod ers amser maith nid yn unig am ei phensaernïaeth a’i golygfeydd trawiadol ond hefyd am fywiogrwydd a chreadigrwydd ei phobl.

Tirwedd

Mae pentrefi Llanfrothen a Chroesor, lle lleolir ystad Brondanw, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn sir Gwynedd. Cânt eu hamgylchynu gan dirwedd fendigedig. Mae copaon eiconig y Cnicht, Moelwyn Mawr a Moelwyn Bach yn ffurfio ochrau dyffryn cul Croesor, ac yn gefndir dramatig i dai hanesyddol yr ystad. Mae afon Croesor yn tarddu yn y mynyddoedd hyn, ac yn troelli i lawr y cwm, gan ffurfio nifer o byllau dwfn a rhaeadrau dramatig ar ei ffordd. Yn y pen darw, mae’n ymuno ag afon Glaslyn ar dir adferedig gwastad y Morfa, a grëwyd pan gwblhawyd Cob Porthmadog ym 1811.

Sefydliadau Lleol

Byw Bod: byw-bod.cymru

Cyngor Cymuned Llanfrothen: llanfrothenacroesor.org/

Oriel Caffi Croesor: orielcafficroesoratcnicht.co.uk

Prosiect Gweilch Glaslyn glaslynwildlife.co.uk

Siop y Garreg: facebook.com/Ygarreg


Dolenni defnyddiol

Oriel Brondanw: orielbrondanw.org