English

Trosolwg o’r Ystad

Mae Ystad Brondanw wedi’i lleoli yng Nghwm Croesor ac mae’n ymestyn dros oddeutu 4,000 erw. Etifeddodd Syr Clough ran isaf yr ystad ym 1925, ac yn ddiweddarach fe ychwanegodd ran uchaf yr Ystad i gynnwys anheddiad hanesyddol y Parc a mynyddoedd y Cnicht a Moelwyn Mawr pan brynodd y rhan honno gan y teulu Annwyl ym 1942.

residential properties

Heddiw, mae’r Ystad yn cynnwys;

  • 48 eiddo preswyl wedi’u gosod
  • 5 fferm wedi’u gosod
  • Neuadd Farchnad Tremadog
  • Coetir llydanddail a chonwydd
  • Plas Brondanw
  • Caffi a Gerddi Plas Brondanw
  • Cofeb Ryfel Llanfrothen
  • Rhan o Afon Croesor ac Afon Maesgwm
  • 4 cynllun ynni adnewyddadwy
  • Hen chwareli llechi
  • Tafarn y Brondanw Arms/Y Ring (a osodir i Robinsons)