English

Priodasau a Derbyniadau Preifat

Priodasau ym Mhlas Brondanw

Mae’r Orendy ym Mhlas Brondanw wedi’i gofrestru ar gyfer priodasau a seremonïau sifil.

Mae Gerddi Plas Brondanw yn cynnig lleoliad digyffelyb ar gyfer priodasau a dathliadau arbennig o bob math. Mae awyrgylch rhamantus y gerddi, harddwch a naws arbennig yr Orendy a maint bach y cyfleusterau’n golygu mai dyma’r dewis perffaith ar gyfer digwyddiadau arbennig iawn.

Gallwn ddarparu ar gyfer dathliadau preifat bach a gallwn gynnig prydau bwyd llawn wrth y bwrdd ar gyfer hyd at 35 o bobl, a derbyniad bwyd bys a bawd ar gyfer hyd at 100 o bobl. Neu mae rhai pobl yn defnyddio lleoliad unigryw yr ardd ar gyfer y seremoni briodasol a’r lluniau ac yn cynnal eu gwledd yn rhywle arall.

Gerddi Brondanw Gardens
Llanfrothen
Gwynedd
LL48 6SW

Ffôn: 01766 772772
E-bost: enquiries@plasbrondanw.com