English

Llyfrgell

Roedd Clough ac Amabel Williams Ellis yn llenorion toreithiog. Cyhoeddodd y ddau ohonynt hunangofiannau:

  • Williams-Ellis, Clough; Architect Errant: The Autobiography of Clough Williams Ellis, Llundain, Constable 1971, Blackie & Son 1980, Golden Dragon Books, 1980
  • Williams-Ellis, Clough; Around the World in Ninety Years, Golden Dragon Books, (1978)
  • Williams-Ellis, Amabel All Stracheys are Cousins Weidenfeld & Nichols UK (1983)

Llyfrau Clough

Y gwaith cyntaf o eiddo Clough a gafodd ei gyhoeddi oedd Reconography, dull o hyfforddi’r meddwl i ddwyn tirweddau i gof er mwyn eu braslunio maes o law, a baratowyd yn ystod y rhyfel tra’r oedd Clough yn aelod o reng newydd Corfflu’r Tanciau, er na chyhoeddwyd y gwaith tan 1919. Ar ôl hynny, ysgrifennodd yn helaeth ar bensaernïaeth, cynllunio a chadwraeth, gan gynnwys y canlynol:

  • Reconography, by student in BEF, (pseudodonym Graphite) 1919
  • England and the Octopus, Llundain, Geoffrey Bles 1928
  • Cottage Building in Cob, Pise, Chalk and Clay: a Renaissance 1919
  • The Architect, Llundain, Geoffrey Bles 1929
  • Cautionary Guide to Oxford, Design and Industrial Association (1930), 32 tudalen
  • Cautionary Guide to St Albans, Design and Industrial Association (1930) 32 tudalen
  • Laurence Weaver – a Biography, Llundain, Geoffrey Bles (1933)
  • Architecture Here and Now, Llundain, T Nelson and Sons (1934)
  • The Adventure of Building: being something about architecture and planning for intelligent young citizens and their backward elders, Llundain, Architectural Press (1946),
  • An Artist in North Wales, Llundain, Elek (1946), lluniau gan Fred Uhlman,
  • On Trust for the Nation (2 gyfrol), Llundain, Elek (1947), lluniau gan Barbara Jones,
  • Living in New Towns, Llundain (1947)
  • Town and Country Planning, Longmans, Green, Llundain, a’r British Council, (1951), 48 tudalen
  • Portmeirion, The Place and its Meaning, Llundain 1963, argraffiad diwygiedig 1973
  • Roads in the Landscape, Ministry of Transport (1967), 22 tudalen
  • Around the World in Ninety Years, Portmeirion (1978)

Llyfrau a ysgrifennodd Clough ar y cyd ag eraill:

  • Williams-Ellis, Clough & Amabel, The Tank Corps (A War History), Llundain 1919
  • Williams-Ellis, Clough & Amabel, The Pleasures of Architecture Llundain, Jonathan Cape 1924, 1929, 1930, 1954
  • Williams-Ellis, Clough & Amabel Headlong Down the Years, Liverpool University Press, 1951
  • Williams-Ellis, Susan, Charlotte, Christopher, Amabel and Clough, In and Out of Doors, Llundain, Geo Routledge and Sons 1937
  • Britain and the Beast, Llundain, Dent 1937
  • Williams-Ellis, Clough; Strachey John; Architecture, 1920, ailargraffwyd 2009

Llyfrau sy’n sôn am Clough:

Llyfr am luniau Clough, gyda darluniau gwych o'r Royal Institute of British Architecture:

  • Haslam, Richard; Clough Williams-Ellis; Llundain, Academy Editions, RIBA Drawings Monographs Rhif 2, 1996
  • Cofiant gan ffrind lleol, y cerflunydd:
    Jones, Jonah; Clough Williams-Ellis The architect of Portmeirion, argraffiad Seren Gwasg Barddoniaeth Cymru Cyf, 1996, 1998

Llyfrau Amabel:

Roedd Amabel Williams-Ellis hyd yn oed yn fwy toreithiog na Clough, yn gweithio fel awdures pan briododd, a chyhoeddodd mwy na 70 o lyfrau erbyn diwedd ei hoes. Roedd trywydd ei gwaith yn eang iawn, o'i gwaith cynnar sef An Anatomy of Poetry, 1922, sydd ar gael heddiw, aeth ymlaen i lunio nofelau, bywgraffiadau, llyfrau gwyddoniaeth i bobl nad oeddent yn wyddonwyr, llyfrau hanes, llyfrau plant gan gynnwys How you Began, a gafodd ei ailgyhoeddi’n ddiweddar yn Reading and Rebellion, an anthology of Radical Writing for Children yn 2018. Cynhyrchodd weithiau cymdeithasol a phamffledi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyfrolau o Straeon Tylwyth Teg, a chasgliadau o straeon Ffuglen Wyddonol.

Roedd gan Amabel ddiddordeb ym mywydau menywod fel y gwelwyd, er enghraifft, yn ei llyfr Women in War Factories, ac yn ei nofelau hefyd. Mae rhywfaint o'i gwaith wedi cael ei adolygu o’r newydd yn ddiweddar gan Jayne Sharrat ac mae ganddi ddarn diddorol ar y nofel The Big Firm ar y wefan Neglected Books, gallwch ei ddarllen yn y ddolen ganlynol: neglectedbooks.com/?tag=amabel-williams-ellis. Mae Jayne yn argymell y canlynol, ac nid yw’r adolygiad yn cynnwys ei chyfres o straeon tylwyth teg:

Noah's Ark – mae’r nofel hon yn ymwneud â'r tensiwn rhwng cael eich hunaniaeth eich hun, a bod eisiau priodi. Mae hefyd yn cynnwys golygfa geni plentyn a fyddai wedi bod yn agwedd flaengar ar y pryd; The Big Firm – am bopeth a nodir yn y blog.

Women in War Factories – cipolwg diddorol ar fywyd menywod a oedd yn mynd allan i weithio ar y pryd. Is a Woman's Place in the Home? – Cyfres o bamffledi trafod y Blaid Lafur, sy’n dangos y credai y byddai Llafur yn cyflwyno cyflog cyfartal i fenywod ac yn dadlau o blaid hynny, (er na ddigwyddodd hynny tan yr 1970au wrth gwrs). The Art of Being a Woman – disgrifiad cynnar o’r ffordd y mae menywod yn llywio bywyd i bob diben, sy’n parhau’n hynod berthnasol heddiw! The Art of Being a Parent - yn dadlau'n groes i'r farn arbenigol ar y pryd, sef y dylai mamau aberthu eu hunain ar gyfer anghenion eu plant yn llwyr.

Nodir llyfrau a luniwyd gan Amabel ar y cyd â Clough, a gyda'u plant uchod:

  • The Tank Corps (A War History), Llundain 1919
  • The Pleasures of Architecture, Llundain, Jonathan Cape 1924, 1929, 1930, 1954
  • Headlong Down the Years, Liverpool University Press, 1951
  • In and Out of Doors, Llundain, Geo Routledge and Sons 1937, ysgrifennwyd gan y teulu cyfan

Sampl o lyfrau ffeithiol gan Amabel:

  • An Anatomy of Poetry, Rhydychen, Basil Blackford, 1922
  • A History of English Life, Llundain, Methuen and Co, 1936, 1939, 1953
  • The Art of Being a Woman, Llundain, The Bodley Head, 1951
  • The Art of Being a Parent, Llundain, The Bodley Head, 1952
  • The Arabian Nights, Blackie 1957, 1958, 1960, 1962, 1963, 1965, 1968, 1970, 1972, 1974, 1976
  • Out of This World: an Anthology of Science Fiction cyfrolau 1 – 9, wedi’u dethol gyda Mably Owen, 1960au
  • Darwin's Moon. A Biography of Alfred Russel Wallace, Blackie Publishers, 1966
  • The Enchanted World, Hodder and Stoughton, 1987
  • But We know Better, darluniwyd gan Clough Williams-Ellis, Jonathan Cape, 1926
  • How You Began, Gerald Howe Ltd, 1928 ailargraffwyd yn Reading and Rebellion; an Anthology of Radical Writing for Children 1900 – 1960, Oxford University Press, 2018
  • A First History of English Life, gyda Fisher, FJ, 4 cyfrol, Llundain, Methuen & Co 1940 ailargraffwyd tan 1964
  • Seekers and Finders, an introduction to science series for children, 6 volumes They Dared to Ask Questions; Magic Science and Invention, You Yourself; The Unknown Ocean; Man and the Good Earth, Engines, Atoms and Power Blackie 1957, 1958, 1959
  • Good Citizens, Llundain, Bodley Head, 1938, 4 argraffiad tan 1960

Sampl o lyfrau ffuglen gan Amabel

  • Noah’s Ark or The Love Story of a Respectable Young couple Jonathan Cape 1925
  • The Wall of Glass Jonathan Cape 1927
  • To Tell the Truth 1933
  • The Big Firm, 1938
  • Learn to Love First, Victor Gollancz 1939
  • Volcano (short stories) Jonathan Cape, 1931

I blant

  • But We know Better, darluniwyd gan Clough Williams-Ellis, Jonathan Cape, 1926
  • How You Began, Gerald Howe Ltd, 1928 ailargraffwyd yn Reading and Rebellion; an Anthology of Radical Writing for Children 1900 – 1960, Oxford University Press, 2018
  • A First History of English Life, gyda Fisher, FJ, 4 cyfrol, Llundain, Methuen & Co 1940 ailargraffwyd tan 1964
  • Seekers and Finders, an introduction to science series for children, 6 volumes They Dared to Ask Questions; Magic Science and Invention, You Yourself; The Unknown Ocean; Man and the Good Earth, Engines, Atoms and Power Blackie 1957, 1958, 1959
  • Good Citizens, Llundain, Bodley Head, 1938, 4 argraffiad tan 1960